Mudiad Cymru gyfan yw Cymru i Bawb, a ddechreuwyd yn Aberystwyth yn 2016 fel ymateb gan grŵp o bobl a oedd wedi’u harswydo gan y digwyddiadau a’r iaith hiliol a chamwahaniaethol a glywsant o’u cwmpas. Mae’n agored i bawb sydd am gael cymdeithas deg, rydd yng Nghymru a thu hwnt.

Credwn ni hyn:

“Dylid parchu pob bod dynol yn ddiwahân, beth bynnag fo’i hil, iaith, diwylliant, crefydd, rhyw, rhywioldeb neu abledd.
Rydyn ni’n ymhyfrydu yn amrywiaeth gyfoethog pobl Cymru ac yn mynnu bod gwahaniaethu yn erbyn unrhyw rai oherwydd cefndir neu briodoledd yn gwbl annerbyniol.”

Rydym ni’n gweithio i gryfhau’r egwyddorion hyn drwy ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd addysg gyhoeddus.